Hafan
Amcanion a Gwasanaethau
Digwyddiadau
Yr Enfys
Cysylltu â ni
Ymaelodi â ni
Cysylltiadau
 
English
Beth Yw Ei Amcanion?

Creu cysylltiad agos a pharhaol rhwng Cymru a Chymry oddi catref, pobl o dras Gymreig a chyfeillion dros y byd i iaith, diwylliant, a thraddodiadau Cymru.

Hyrwyddo Cymru a'i diwylliant, y tu allan i Gymru a chynorthwyo i sefydlu cymdeithasau Cymreig lle bynnag y bo cyfle i wneud hynny.

Pa wasanaeth a gynigir?

Cyhoeddi cylchgrawn dwyieithiog "Yr Enfys", sy'n cynnwys darlun o Gymru ddoe a heddiw, ynghyd a chyfnewid hanesion am weithgareddau'r Cymry a charedigion Cymru dros y byd.

Trefnu man cyfarfod yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a chymryd rhan yn y seremoni groesawu ar lwyfan y Brifwyl.

Cynnal cronfa ddata fyd-eang o gysylltiadau Cymreigar gyfer unigolion, cymdeithasau a chyrff cyhoeddus.

Cyflenwl archebion am lyfrau, casetiau nwyddau eraill o Gymru.

Bod yn ffynhonnell gwybodaeth am Gymru a Chymry i gyfeillion y tu allan i'r wlad.